Kow: y Bardd yn gyrru /r/ wylan drosto att i gariad
1 Yr wylan deg ar lanw dioer
2 vnliw ag eira ne wenloer
3 di lwch yw dy degwch di
4 darn fal haul dwr fol heli
5 ar frig ton yn eigion wyd
6 esgydfalch edn bysgodfwyd
31 a ddygi yn ddiogan
32 llathr i glod fy llythyr glan
33 att ferch sy ai serch /n/ saeth
34 im dwyfron mae gloesion glewsaeth
11 kywairglod bun kaurglod bell
12 kyrch ystym kaer i chastell
13 ydrach a welach wylan
14 eigr liw ar y gaer lan
17 bydd vn yn beiddio i hannerch
18 bydd fedrys wrth fwythus ferch
19 bydd dowaid na bydda
20 fwynwas koeth fyw onis ka
21 i charu i ddwyf gwbl nwyf nawdd
22 och wyr y rioed ni charawdd
23 na Merddin chwenychfin iach
24 na Taliessyn i thlysach
25 suprus dyn gipris dan gopr
26 rhagorbryd rhy gowairbropr
27 och wylan o chai weled
28 grudd ddyn lana o gred
29 oni chaf fwynaf annerch
30 fynihenydd fydd y ferch
Dafydd ap Gwilym ai kant